Annwyl Robert,
Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru
Diolch i chi am eich tystiolaeth ysgrifenedig mewn cysylltiad â'r ymchwiliad uchod.
Nodais yn fy llythyr at yr Ysgrifennydd Cartref y byddwn yn ysgrifennu i ofyn am wybodaeth ychwanegol pe byddai'r Pwyllgor yn dod ar draws materion eraill sy'n berthnasol i'r Swyddfa Gartref yn ystod yr ymchwiliad. Mae'r dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd i'r Pwyllgor ar gael yn http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgConsultationDisplay.aspx?id=228&RPID=1008224700&cp=yes ac mae trawsgrifiadau o sesiynau tystiolaeth lafar i'w gweld yn http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=15159
Byddwn yn ddiolchgar pe gallech gyflwyno rhagor o dystiolaeth ar y pynciau canlynol:
· Y cyfrifoldebau a bennwyd yn y contract rhwng y Swyddfa Gartref a Clearsprings Ready Homes Ltd o ran y gwasanaethau y mae'n rhaid eu cyflwyno i geiswyr lloches yng Nghymru a'r safonau ansawdd sy'n berthnasol.
· Sut mae'r Swyddfa Gartref yn sicrhau bod sgrinio iechyd cychwynnol yn digwydd a bod gwersi Saesneg ar gael i geiswyr lloches (gan fod y rhain wedi cael eu hamlygu i'r Pwyllgor fel meysydd sy'n peri problemau).
· Asesiad y Swyddfa Gartref o ansawdd y llety a gynigir gan Clearsprings, a'r mesurau cytundebol neu'r mesurau perfformiad eraill y gwneir yr asesiad hwn arnynt, gan gynnwys natur ac amlder y monitro a wneir, a'r prosesau ar gyfer ymchwilio i gwynion.
· A fyddai'r Swyddfa Gartref yn barod i ymestyn y cyfnod symud ymlaen o 28 diwrnod i 56 diwrnod i ddod ag ef yn unol â'r dyletswyddau atal digartrefedd a gyflwynwyd gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, ac i gryfhau rhannu gwybodaeth gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru ynghylch y nifer disgwyliedig o geisiadau llwyddiannus am loches.
Er mwyn cynorthwyo'r Pwyllgor i ddod â'r ymchwiliad hwn i ben mewn modd amserol byddwn yn gwerthfawrogi eich ymateb yn ddelfrydol erbyn dydd Mercher 18 Ionawr ond fan bellaf erbyn dydd Iau 2 Chwefror.
Rwyf hefyd yn anfon copi o'r llythyr hwn at Gadeirydd Pwyllgor Materion Cartref Tŷ'r Cyffredin.
Yn gywir
John Griffiths AC